Sefydlwyd Bwrdeistref Bangor a Chorfforaeth Bangor – rhagflaenydd y Cyngor Dinas Bangor presennol – gan Siartr Frenhinol yn amser y Frenhines Fictoria yn 1883. Am y 90 mlynedd canlynol cymrodd y Cyngor gyfrifoldeb am ddarparu tai cyhoeddus, gwaith adeiladu a datblygu, cynnal a chadw strydoedd a llwybrau, carthffosiaeth, iechyd yr amgylchedd, hamdden, llecynnau agored cyhoeddus ac adeiladau cyhoeddus. Ar Ad-drefnu Llywodraeth Leol yn 1974 gwelwyd llawer o bwerau, asedau a chyfrifoldebau'r Cyngor yn cael eu trosglwyddo i Gyngor Bwrdeistref Arfon. Roedd rôl Cyngor Bangor felly wedi ei leihau'n arw. Fodd bynnag, yn 1974, rhoddwyd statws Dinesig gan y Frenhines i Fangor ac fe gymrodd y Cyngor y teitl swyddogol o "Gyngor Dinas Bangor".

Pier

Hanes

Hanes