Difrod tân i 164 ac 166 Stryd Fawr, Bangor
Yn dilyn y tân yn Noodle One ar y Stryd Fawr, a wnaeth hefyd ddifrodi'r adeilad gerllaw, Morgan,
rydym wedi bod yn gweithio tuag at ddymchwel y ddau eiddo yn sgil maint y difrod a sefydlogrwydd
yr adeiladau wedi'r tân.... darllen mwy
Ers yr ymweliad â busnesau yn ardal Pendref, Bangor ym mis Mawrth, mae'r amgylchiadau presennol mewn perthynas â Covid19 wedi effeithio ar fusnesau ledled y Sir....Darllen mwy
Mae Cyngor Gwynedd wedi gwneud gwaith sylweddol wrth drefnu i sgaffald strwythurol gael ei godi i gefnogi 166 a 164 Stryd Fawr Bangor yn dilyn y tân ar 17eg Rhagfyr 2019. Oherwydd maint y sgaffaldiau sy'n ofynnol, nid yw'r ffordd ei hun yng nghyffiniau'r adeiladau yn anhyboen, ond mae'r droedffordd ar yr ochr arall yn parhau ar agor.
Fe wnaethom weithredu'n gyflym wrth sefydlu trefniant rheoli traffig diogel ac ymarferol oherwydd y cau annisgwyl. Ers sefydlu'r system draffig dros dro rydym wedi bod yn monitro sut mae wedi bod yn gweithio ac yn cysylltu â busnesau a chyflenwyr ac wedi gwneud addasiadau yn unol â hynny.
Fel rhan o’r grŵp ‘Delwedd Bangor’, fe wnaethon ni gwrdd ar noson 20fed Ionawr lle trafodwyd y trefniadau traffig a rhannwyd llawer o syniadau. Cytunwyd bod angen i unrhyw system draffig roi diogelwch y cyhoedd yn gyntaf ac na allwn weithredu syniadau lle credwn y byddai diogelwch defnyddwyr y ffordd yn cael ei gyfaddawdu. Fodd bynnag, cytunwyd hefyd y dylid anfon unrhyw syniadau ynglŷn â gwella'r trefniadau traffig dros dro at y Cyngor drwy’r manylion cyswllt a ddarperir.
Rydym yn gweithio'n agos gyda pherchnogion yr adeiladau a'u hyswirwyr er mwyn ailagor y rhan bwysig hon o'r Stryd Fawr cyn gynted â phosibl.
Mae Emlyn Williams, Swyddog Prosiect y Cyngor Dinas, yn gweithio'n agos gyda'r busnesau i geisio datrys unrhyw broblemau sydd yn codi o ddydd i ddydd. Mae o hefyd mewn cysylltiad dyddiol efo John Evans y peiriannydd ar faterion ynglŷn â'r adeilad.
Mae’r Cyngor Dinas wedi gosod dwy faner, un ar gylchdro Asda a'r llall ar y scaffold tu allan i 164 Stryd Fawr i hysbysebu bod y stryd dal ar agor i fusnes.
Mae John Wyn Williams, Y Maer, yn cysylltu yn rheolaidd gyda Chyngor Gwynedd a'r Aelod Seneddol er mwyn cadw pawb yn y lŵp ac yn dwyn sylw i unrhyw faterion, syniadau neu ddatrysiadau ynglŷn â'r rhan bwysig yma o'r stryd. Hefyd mae llythyr wedi ei anfon yn cefnogi cais y busnesau i gael rhyddhad dros dro o drethi busnes nes bod y stryd wedi cael ei ail- hagor.
Mae'r misoedd nesa am fod yn heriol iawn ac mae’r Cyngor Dinas yn barod i gydweithio, cefnogi a helpu busnesau mewn unrhyw ffordd bosib.
Mae AGB Bangor yma i ddarparu cefnogaeth i'r busnesau yr effeithiwyd arnynt gan gau'r ffordd ger 164 Stryd Fawr Bangor.
Trefnwyd digwyddiadau i ddod â busnesau ar y Stryd Fawr at ei gilydd, fel y ‘Cracker Pull’ ddiweddar.
Mae Pamela Poynton, Cadeirydd AGB, mewn cysylltiad rheolaidd â busnesau Pendref, yn ogystal â'r Awdurdod Lleol, Cyngor y Ddinas ac yr Aelod Seneddol.
Mae AGB Bangor wedi tynnu sylw at y sefyllfa trwy amrywiol sianeli cyfryngau, gan gynnwys y BBC, Daily Post a'r Bangor Aye a byddant yn gweithio'n barhaus i godi ymwybyddiaeth bod busnesau ar agor fel arfer ac yn helpu mewn unrhyw ffordd bosibl.
Os hoffech drafod ynrhyw bryderon, neu os oes gennych unrhyw gwestiynnau, gallwch gysylltu a ni drwy’r manylion isod:
Siôn E. Roberts
Cydlynydd Rhaglen Adfywio Bangor
Ffôn: 01286 679545
Ebost: sioneurigroberts@gwynedd.llyw.cymru
Maer 2019/20
Cynghorydd John Wyn Williams
Dirprwy Faer 2019/20
Cynghorydd Owen J Hurcum