Mae Cyngor y Ddinas yn cyfarfod yn rheolaidd i drafod nifer o faterion i wneud a dinas Bangor.

Y mae Cyngor Gwynedd yn ymgynghori a Chyngor y Ddinas ar bob cais cynllunio sy'n cael ei chyflwyno y tu mewn i'w ffiniau, ar faterion priffyrdd ac ar geisiadau trwyddedu yn y Ddinas. Y mai rhain yn cael eu hystyried gan y Pwyllgor Cynllunio a Mwynderau ac mae sylwadau yn cael ei gwneud i Gyngor Gwynedd arnynt. Mae Cyngor y Ddinas hefyd yn cael ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru, Cyngor Gwynedd, yr Awdurdod Iechyd, yr Heddlu a chyrff cyhoeddus eraill sy'n gweithredu'n lleol ar ystod eang o faterion sy'n effeithio ar fywyd Dinasyddion Bangor. Mae'r materion yma yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Cyllid ac Amcanion Cyffredinol y Cyngor.

Mae Cyngor y Ddinas yn gyfrifol am diroedd ac eiddo ym Mangor gan gynnwys :

Swyddfeydd Cyngor y Ddinas, Ffordd Gwynedd
Mae llawr isaf adeilad y swyddfeydd yn prif ganolfan i Gyngor y Ddinas ac mae'n cynnwys swyddfeydd y Maer, Clerc y Dref, swyddog prosiect y Cyngor, y swyddog gweinyddol a hefyd dderbynfa gyhoeddus. Y mae Uned Polisi Cynllunio ar-y-Cyd Gwynedd/Ynys Môn ar lawr cyntaf yr adeilad ac mae Gwasanaeth Cynllunio Mwynau a Gwastraff Gogledd Cymru ar y llawr uchaf.

Neuadd y Penrhyn, Ffordd Gwynedd
Mae'r Neuadd yn cynnwys prif Siambr y Cyngor yn lle mae holl gyfarfodydd y Cyngor yn cael eu cynnal. Mae'r Neuadd yn cael ei gweinyddu fel neuadd gymunedol ac y mae ar gael i'w llogi i'r cyhoedd, i grwpiau lleol ac i fudiadau er mwyn cynnal gwahanol ddigwyddiadau a chyfarfodydd. Mae gan y Neuadd hefyd drwydded i gynnal priodasau. Mae rhain yn cael eu harchebu trwy yr adran Cofrestrydd Cyngor Gwynedd.

Pier Bangor, Garth
Mae'n berchennog ar Bier Bangor ac mae'n ei gynnal a'i gadw. Mae'n gosod allan Caffi'r Pafiliwn a'r ciosgau ar y Pier i fanwerthwyr. Dechreuodd gwaith adfer y Pier ym mis Tachwedd 2017 er mwyn sicrhau dyfodol yr Adeilad eiconig Fictoraidd hwn sy’n Adeilad Rhestredig Gradd 2*.

Stadiwm Pêl droed Nantporth, Ffordd Caergybi
Mae'n berchennog ar y stadiwm pêl droed a'i chyfleusterau cysylltiedig ac mae'r stadiwm wedi ei gosos ar les i Glwb Pel Droed Dinas Bangor.

Canolfan Hafan, Ffordd Garth
Mae'n berchen ar Ganolfan Hafan i'r Henoed a'r Anabl ger prif orsaf fwsiau'r Ddinas yn Ffordd Garth. Y mae'r cyfleusterau yma'n cael eu rheoli ar ran Cyngor y Ddinas gan Age Concern Gwynedd a Môn ac mae'r bartneriaeth wedi bod yn llwyddiant mawr yn darparu cyfleusterau i'r gymuned mewn lleoliad canolog i bobl leol am lawer o flynyddoedd.

Llecynnau Agored Cyhoeddus
Mae yn cynnal a chadw llecynnau agored yn y Ddinas, gan gynnwys Caeau Ashley Jones oddi ar Ffordd Siliwen, Caeau Dargie oddi ar Ffordd Y Dywysoges, parc Bryn Llwyd oddiar Ffordd Caernarfon, tiroedd o gwmpas y Gadeirlan, yr wylfa ar Ffordd Caergybi a'r eisteddfa ar Ffordd Farrar.

Coedlannau
Mae yn berchen ac yn edrych ar ôl coedlannau yn cynnwys Coed Menai, Ffordd Caergybi a Choed Penrhyn (rhwng gwaelod y Stryd Fawr a'r Cwrs Golff ar Fynydd Bangor).

Depo a Gweithdy, Tŷ'r Pier Feistr a'r Bwyty Eidalaidd

Maes Parcio'r Pier

Llwybrau Cyhoeddus
Gyda chyfrifoldeb am gynnal llwybrau cyhoeddus trwy Fangor.

Cysodfannau Bws
Yn gyfrifol am gynnal a chadw cysgodfannau bws.

Yn berchennog ac yn cynnal Cofeb y Ddinas a Chloc y Dref.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am ddigwyddiadau Dinesig a Seremoniol yn y Ddinas fel gwasanaethau Sul y Cofio, gorymdeithiau rhyddfraint drwy strydoedd y Ddinas gan Orsaf yr Awyrlu RAF y Fali, Catrawd y Cymru Brenhinol a'r Gwarchodlu Cymreig.

Y mae'n rhoi arian a chefnogaeth ariannol i grwpiau cymunedol lleol a chlybiau a hefyd cefnogaeth, cymorth ariannol, trefnu ac ariannu nifer o ddigwyddiadau yn y Ddinas.

Mae'n gyfrifol am y Goleuadau Nadolig a hefyd y basgedi blodau yn nghanol y Ddinas.

Mae'r Cyngor yn gyfrifol am atgyfodi a rheoli'r Farchnad Wythnosol ar ddydd Gwener yn y Stryd Fawr, sydd ers ei hail-sefydlu yng nghanol y Ddinas ym mis Hydref 2013, wedi profi'n hynod o boblogaidd a llwyddiannus ac wedi denu niferoedd mawr o ymwelwyr a thwristiaid i'r Ddinas o ardal eang.

Mae’r Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Gwynedd a’r gymuned fusnes drwy Ardal Gwella Busnes (AGB) Bangor. Mae’r AGB yn rhoi sylw i ardal fasnachol y Ddinas. Mae’r dynodiad yn golygu y gall canran o’r cyllid sy’n seiliedig ar ardrethi busnes gael ei fuddsoddi o fewn ardal yr AGB. Bydd hyn yn arwain at fuddsoddiadau ychwanegol sylweddol a gwneud gwelliannau i’r economi leol.

Hefyd mae Partneriaeth Strategol Bangor, gyda rhanddeiliaid allweddol lleol yn aelodau, wedi’i sefydlu i gydweithio a gweithio ochr yn ochr i yrru’r Strategaeth a’r Weledigaeth i Ddinas Bangor. Mae hyn yn cynnwys comisiynu, cytuno a llywio Cynllun Gweithredu i gyflawni’r Strategaeth yn llwyddiannus, gyda chanlyniadau a deilliannau clir yn dilyn y gwaith da a wnaed gan hen Bartneriaeth Cyngor y Ddinas.

Mae Grwpiau eraill yn ystyried delwedd a brandio’r Ddinas yn gyffredinol.