Ar y wefan mae gwybodaeth am ddinas Bangor, beth sy’n digwydd yma a hefyd peth o’i chefndir a’i hanes. Mae cysylltiad yma i wybodaeth am y Stryd Fawr, i’r gwahanol atyniadau yn ardal Bangor ac i ddigwyddiadau sy’n cymryd lle yn y Ddinas yn y dyfodol agos. Cewch hefyd ddysgu am Gyngor Dinas Bangor a pha wasnaethau y mae’n ei ddarparu i’r gymuned. Mae amserlen i’r Cyngor a’i Bwyllgorau a chofnodion y cyfarfodydd hynny.
Bangor yn dathlu hanner canrif o gyfeillgarwch Gefeillio Dinas
Darganfod mwy
Cefais y fraint yn ddiweddar o dreulio diwrnod efo gweithwyr awyr agored amhrisiadwy ein Cyngor Dinas ym Mangor, Aaron a Howell. Maent yn gwneud y gwaith yn anweledig, yn aml yn ddiddiolch - ond maent yn gwneud y stwff hanfodol yna sy’n cadw’r ddinas i fynd felly gofynnais a fuaswn yn cael treulio’r diwrnod efo nhw. Mae eu gwaith yn allweddol i’n dinas ni.
Cyfarfum â hwy wrth y Pier am 7 o'r gloch y bore, ac wedyn syth ati draw i’w swyddfa ynghanol y ddinas. Cawsom sbec sydyn o gwmpas Tan y Fynwent er mwyn arolygu sefyllfa’r llygod mawr, a thynnu lluniau er mwyn cysylltu efo adran Gwarchod y Cyhoedd yng Nghyngor Gwynedd. Mae’r gwaith o daclo pla fel llygod mawr yn gyfrifoldeb i Gyngor Gwynedd, ond mae’n gyfrifoldeb i ni gyd gysylltu os gwelwn rai.
Ar ôl glanhau’r swyddfa, aethom nôl i’r Pier i arolygu’r Pier a gwneud gwaith cynnal a chadw. Tynnwyd ambell drawst a oedd wedi pydru a gosodwyd rhai newydd. Gwiriwyd fod y decing yn saff, a symud mlaen. Mae angen atgoffa ni gyd hefyd os ydym yn gyrru ar hyd y Pier, mai 5mya yw’r cyflymder uchaf ar y Pier neu fe fyddwch yn malu’r trawstiau.
Wedyn aethom ni draw i Goedwig Menai i wirio a oedd coed wedi syrthio yn y storm. Mae angen gwaith ar y llwybr ond gan mai dim ond Aaron a Howell sy’n gwneud y gwaith cynnal a chadw i’r Cyngor, mae’n amhosib mynd i’r afael â gwaith adfer sylweddol heb fuddsoddiad sylweddol oddi wrth y rhanddeiliaid i gyd. Wnaethon ni hefyd ymweld â Chaeau Ashleigh.
Ymlaen wedyn i gychwyn ar y waith o roi goleuadau ar y Stryd Fawr. Mae hyn yn joban mawr!
Wedyn cyn diwedd y dydd, daeth galwad gan y tîm sy’n gwneud y gwaith adfer ar y Pier ar hyn o bryd, yn dweud fod angen trawstiau ac adnoddau eraill ychwanegol cyn fory neu fe fyddai’r gwaith yn dod i stop! Felly roedd raid i Aaron droi ar ei sawdl a mynd i siopa! Mae Aaron hefyd wedi cymryd gwaith ychwanegol ymlaen gan mai’r Cyngor Dinas sy’n gyfrifol erbyn hyn am osod a thynnu’r bolardiau ar y stryd fawr. Diolch Aaron a Howell – rydach chi’n amhrisiadwy! Rydym yn lwcus iawn ohonoch!
Dyfyniad gan y Maer:
Ar achlysur dwys Sul y Cofio, cofiwn am y rhai sydd wedi colli eu bywydau er mwyn eraill, a chofiwn hefyd am y rhai sydd heddiw’n dioddef trais ac erchylltra rhyfel yn ein byd. Gweddiwn am heddwch.
Cefnogwn bob ymdrech i ddatrys anghydfod rhwng dyn a dyn hyd eithaf ein gallu.
Y Maer wedi mwynhau cyfri lawr i gychwyn y tân gwyllt! Pawb wedi mwynhau yr arddangosfa ryfeddol! Diolch i’r holl wirfoddolwyr am sicrhau digwyddiad didrafferth a diogel i bawb.
Cafodd y Maer y fraint o rannu gwobrau disgyblion talentog Academi Westend Academy yn ddiweddar. Mi naeth hi ddweud "Mi roedd yn hyfryd cael bod yn bresennol i ddathlu llwyddiannau’r plant hyfryd. Llongyfarchiadau iddynt i gyd! Diolch i Natt Rob, athrawes ysbrydoledig yr Academi am y gwahoddiad a’r croeso cynnes."
Gwerthfawrogir taliadau ychwanegol – i helpu i gadw’r pier ar agor i bawb.